J’arrive pas à traduire ça /ʒa.ʁiv paz‿a tʁa.dɥiʁ sɑ/
adferf
Cyfansoddwyd ym mis Mai 2023 ar gyfer y dyfeisiwr y Bwrdd Babel, Jean-François Laporte
Oddeutu 15 munud
© 2023 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl
Perfformwyr:
- Bwrdd Babel
Nodyn y Cyfansoddwr:
Gall y darn gynnwys datganiadau ar y pryd gan fod yr amseroedd yn amcangyfrifon a’r effaith gyffredinol yw bod y gynulleidfa yn gwrando beth maent yn ei ystyried fel ychydig funudau o gerddoriaeth cyn cael gwybod mai dim ond tiwnio’r offeryn ydoedd. Y strwythur yw: tiwnio | dwysâd gwyllt | sŵn eithafol yn graddoli i ddistawrwydd. Dylai’r funud olaf codi argyfwng dirfodol.
Dylai’r darn ddechrau’n drwy hap a heb gyflwyniad. Dylai ddod i ben yn yr un ffordd gan symud ar unwaith at y darn nesaf neu’r egwyl.
Ni ddylai’r gynulleidfa fyth fod yn ymwybodol o wir ddechrau na diwedd y darn.
I feithrin y dryswch hwn, mae yna adegau ble gellir siarad â’r gynulleidfa neu esgus bod yn wynebu anawsterau technegol, fel ei ysgrifennwyd yn y sgôr.
Nodiadau Nodiant: Mae symbolau smiley yn rhagnodi golwg wyneb y perfformiwr. Mae confensiynau nodiant yn cael eu hesbonio yn y sgôr wrth iddynt ymddangos.
Nodyn y Rhaglen:
I beidio â chael ei restru yn y rhaglen.
Gosodiad:
Microffon #1 wedi’i banio’n galed i’r dde (gwrthwyneb i’w le ar y Bwrdd Babel) i seinydd y tu ôl i’r gynulleidfa. Microffon #2 i’w banio’n galed i’r chwith yn yr un modd. Dylai hyn gymysgu’r syniad o ble mae’r synau’n dod.
Nodiadau'r Perfformiwr:
Mae symbolau smiley yn rhagnodi golwg wyneb y perfformiwr. Mae confensiynau nodiant yn cael eu hesbonio yn y sgôr wrth iddynt ymddangos.