Deulin Drwg /ˈnɪkətiːn/

enw

Cyfansoddwyd ym mis Hydref 2023 ar gyfer y Cerddorfa'r Cyfansoddwyr Brifysgol Caeredin
Oddeutu 5 munud
© 2023 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl

Perfformwyr:

  • Perfformwyr Sgôr Agored : Perfformwyr wedi'u lleoli yn unigol mewn casys gwydr, fel arddangosion amgueddfa.

Nodyn y Rhaglen:

I beidio â chael ei restru yn y rhaglen.

Gosodiad:

Gosodwch berfformwyr y gerddoriaeth tu mewn i gistiau wydr tu allan i neuadd gyngerdd y perfformiad, fel pe baent yn arddangosion mewn amgueddfa.

Un gist wydr yr un yn nhrefn y sgôr, ond am Werinwr 1 a 2 sydd i fod yn yr un gist wydr a’i gilydd.

Mae’r gynulleidfa, yn dilyn Cynrychiolydd yr Undeb, i adael y neuadd gyngerdd er mwyn mynd ar daith ddywysedig drwy arddangosion yr amgueddfa ac yn ôl i’r neuadd gyngerdd eto.

Bydd gweddill y gerddorfa, pryd mae’r gynulleidfa ymaith, yn rhannu’n ddau. Bydd un hanner yn eistedd yn lle’r gynulleidfa a byddant yn cymeradwyo eu dychweliad. Bydd y gweddill yn eistedd ar y llwyfan mewn cornel, yn bwyta eu brechdanau.

Sgôr Testun:

Mae’r ARWEINYDD yn mynd i ddechrau’r darn nesaf. Mae CYNRYCHIOLYDD YR UNDEB yn dod i’r llwyfan yn swnllyd, gyda chwyddleisydd a chlipfwrdd.

 

CYNRYCHIOLYDD YR UNDEB: Mae’n amser am Amser Cinio Mandedig yr undeb!

 

Mae’r ARWEINYDD a CHYNRYCHIOLYDD YR UNDEB yn cael ffrae fyrfyfyr. Mae’r CYNRYCHIOLYDD YR UNDEB yn diystyru pryderon yr ARWEINYDD ac yn mynnu bod y seibiant yn unol â’r rheolau.

 

CYNRYCHIOLYDD YR UNDEB: Fel rhan o Amser Cinio Mandedig yr Undeb, rhaid i’r gerddorfa gael preifatrwydd oddi wrth y gynulleidfa, felly mae’n rhaid i chi adael. Peidiwch â phoeni; gallwch ddod yn ôl yn ddiweddarach. I’ch helpu, croesawch y Pibydd Brith!

 

Mae’r PIBYDD BRITH yn dod i mewn gan chwarae anthem genedlaethol ei wlad ei hun, tuag yn ôl ar ddau chwiban tun neu ffliwtiau rhad, ac yn arwain y GYNULLEIDFA allan i’r amgueddfa, yna’n dal drws yn agored iddynt ddychwelyd ar draws y llwyfan.

 

Mae hanner y gerddorfa (UN) yn eistedd ar y llwyfan mewn cornel, yn bwyta brechdanau. Mae’r hanner arall (DAU) yn eistedd mewn seddi’r GYNULLEIDFA, yn clapio’r GYNULLEIDFA wrth iddynt ailymddangos.

 

Nid yw CYNRYCHIOLYDD YR UNDEB fod yna mwyach, gan mae wedi gadael pan oedd y GYNULLEIDFA i ffwrdd. Mae’r PIBYDD BRITH yn dweud wrth y GYNULLEIDFA am fynd yn ôl i’w seddi cyn cau’r drws a diflannu.

 

Mae’r GERDDORFA’N ymuno eto ac yn dychwelyd i’w safle gwreiddiol. Mae’r ARWEINYDD yn dychwelyd ac yn parhau fel pe na bai dim o’i le wedi digwydd.