REDACTED

REDACTED

Cyfansoddwyd ym mis Mai 2023 ar gyfer y Pedwarawd Arditti
Oddeutu 5 munud
© 2023 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl

Perfformwyr:

  • Ffidl
  • Ffidl
  • Fiola
  • Soddgrwth

Nodyn y Cyfansoddwr:

Gêm sy’n archwilio sensro a gwaith tîm yw hon, a gellir ei chwarae mewn un o ddwy ffordd (oni bai y gallwch chi feddwl am drydedd ffordd well):

1. Gan ddefnyddio technoleg (digidol), cysylltwch bedwar pedal tröwr tudalennau electronig â phedwar tabled/ffôn/sgrin gliniadur.

2. Gan ddefnyddio trowyr tudalennau (pobl) a phapur (analog), neilltuwch un tröwr tudalennau i bob chwaraewr.

Rhaid neilltuo’r pedalau neu’r trowyr tudalennau ar hap, heb i’r chwaraewyr wybod, gan sicrhau hefyd nad oes neb yn troi ei dudalen ei hun. Nodir: Pan fydd y chwaraewyr yn gallu gweld y sgôr lawn, yn lle eu erwydd yn unig, dylid troi’r tudalennau fel yr arfer.

Sut i’w Chwarae: bob tro y byddwch chi’n cyrraedd diwedd eich tudalen, byddwch chi’n troi tudalen chwaraewr arall ar hap – naill ai drwy wasgu’r pedal troed neu drwy roi arwydd llafar. Yna, rhaid i’r chwaraewr hwnnw geisio newid, yn gerddorol, i chwarae beth bynnag sydd nawr o’u blaenau. Ar adegau, byddwch yn cyrraedd diwedd eich tudalen heb unman i fynd. Wrth i chi aros i rywun arall droi eich tudalen, ailadroddwch y bar neu ddau olaf (fel y nodir gan farciau dal segno), nes i chi gael y rhyddhad o droad tudalen. Nod y gêm yw, erbyn diwedd y darn (o’r enw <em>Diweddgan</em>), alinio â’ch gilydd ar frig eich gallu.

I’r rhai sy’n chwarae â phapur a throwyr tudalennau (analog), gall arwyddion llafar fod unrhyw beth yr ystyriwch yn rhesymol – y nod yw eu gwneud yn ddigon amlwg fel nad yw’r trowyr tudalennau yn eu colli.

Nodyn y Rhaglen:

Gêm bryfoclyd yw [DILEU], darn pedwarawd llinynnol sy’n archwilio’r cysyniad o sensro a phwysigrwydd gwrando ar ein gilydd. Wrth chwarae’r darn, mae anhrefn yn llifo mewn yn araf fach gan naill dro mai perfformiwr yn dod at ddiwedd ei dudalen, mae tudalen perfformiwr arall yn cael ei droi ar hap yn lle.

Yr hyn sy’n dilyn yw cyfres o driniaethau anfesuradwy o ddeunydd y darn, wrth i bob perfformiwr geisio ail-gydweddu â gweddill y grŵp wrth iddo chwalu. Gan ddefnyddio eu sgiliau gwrando, eu nod yw ail-alinio erbyn diwedd y darn a chwarae’r tudalennau olaf yn gydlynol. Pan nad ydym yn torri ar draws ein gilydd a’n bod yn gwrando, rydym yn cael canlyniadau gwell.

Gosodiad:

Pa un a ydych yn chwarae, analog neu ddigidol, bydd y pedwarawd yn eistedd mewn hanner cylch gwrthdro, yn wynebu’r gynulleidfa ac oddi wrth ei gilydd.