Gludwaith /kɒˈlɑːʒ/
enw
Cyfansoddwyd ym mis Medi 2020 ar gyfer y Pedwarawd Ligeti
9 munud
© 2020 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl
Perfformwyr:
- Ffidl
- Ffidl
- Fiola
- Soddgrwth
Nodyn y Rhaglen:
Bwriad y darn hwn yw ychwanegu ychydig mwy o hwyl i repertoire cerddorol; mwyhau’r gair ‘chwarae’ mewn ‘chwarae’r gerddoriaeth’; rhoi naws gêm i’r perfformiad cerddorol; ac mae’n parhau â’r awydd gan y cyfansoddwr i ildio elfennau o reolaeth dros y broses gyfansoddi. Â theitl Gludwaith, mae’r darn hwn yn cynnwys wyth segment mae rhaid i’r perfformwyr chwarae mewn unrhyw drefn y maent yn ei dewis wrth eu perfformio.
Mae hyn yn golygu nad oes dechrau, canol na diwedd wedi gosod i’r darn: dim ond darnau o jig-so y mae’r perfformwyr yn eu gosod wrth iddynt chwarae. Penderfynir ar y segment cyntaf gan y prif arweinydd, a phenderfynir arno ef yn ei dro drwy gêm Cerrig, Papur, Siswrn. Mae’r gweddill yn parhau o’r fan honno nes bod pob un o’r wyth segment wedi’u chwarae.
Nodiadau'r Perfformiwr:
Mae gan bob symudiad o’r darn, neu segment, ‘arweinydd’ a ddynodir gan bwy sy’n dechrau’r segment ac mae segmentau yn para am un dudalen wrth edrych ar y rhannau. Mae pob segment tua munud o hyd. Mae bob un perfformiwr yn arweinydd mewn dau segment yr un.
Chwaraewch Cerrig, Papur, Siswrn i benderfynu pwy fydd yn arwain gyntaf. Yna, mae’r prif arweinydd yn penderfynu pa un o’u dau segment i ddechrau’r darn. Wrth berfformio, dewiswch, yn y ffordd sydd orau gennych, pa segment sydd nesaf, gan ddilyn un o’r tri opsiwn sydd wedi’u marcio ar ben bob tudalen.
Mae pob segment yn dechrau gyda’r arweinydd yn chwarae’n unig, er mwyn rhoi amser i’r lleill ddod o hyd i’r dudalen y maent bellach arno. Mae’r darn yn gorffen pan fydd pob un o’r wyth segment wedi’u chwarae. Gan mai dim ond i un o dri segment arall y mae pob segment yn mynd, mae’n bosibl y byddwch yn symud mewn cylch ac yn chwarae segment a glywyd o’r blaen cyn llwyddo i chwarae pob un o’r wyth unwaith, ac mae hynny’n iawn.
Mae’r segmentau’n dilyn ei gilydd fel hyn: I = II/III/IV; II = V/VI/VII; III = I/II/VIII; IV = III/V/VII; V = IV/VII/VIII; VI = I/VII/VIII; VII = IV/V/VII; VIII = I/II/III.