Heclo /hɛkəl/
ebychiad
Cyfansoddwyd ym mis Awst 2024
Oddeutu 5 munud
© 2024 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl
Gydag ychydig o gymorth gan:
- Evie Alberti: Sacsoffonydd a Ffwyl
Perfformwyr:
- Cynulleidfa
- Gitâr 12-Llinyn
Nodyn y Cyfansoddwr:
Ailadroddwch y canlynol, fesul bar, nes i’r gynulleidfa heclo neu roi hwrê atoch chi. Dilynwch y marciau ailadrodd nes i chi clywed heclo neu hwrê. Er enghraifft, ailadroddwch y bar cyntaf a pheidiwch symud ymlaen i’r ail far nes i chi gael eich heclo neu hwrê. Efallai y bydd angen i chi ymgysylltu â’r gynulleidfa i gael ymateb. Gwnewch hynny’n di-eiriau.
Gall symud i’r bar nesaf ddigwydd ar unrhyw adeg ac nid oes angen iddo fod ar ddiwedd bar. Ailadroddwch cyfan y dudalen gyntaf nes bod y gynulleidfa’n cyflymu ddigon fel eich bod yn cael eich gorfodi i symud i’r dudalen nesaf.
Gall symud at dudalen dau ddigwydd ar unrhyw adeg ac nid oes angen iddo fod ar ddiwedd y dudalen gyntaf, neu hyd yn oed ar ddiwedd bar. Chwarae elfen raffigol yr ail dudalen ar gyflymder yr heclo neu’r hwrê.
Os nad yw’r gynulleidfa’n cydweithio… daliwch ati i chwarae’r bar rydych chi arno am weddill y darn, gan orffen ar y cord olaf pan fyddwch chi wedi cyrraedd pum munud o amser ar y llwyfan.
Nodyn y Rhaglen:
I beidio â chael ei restru yn y rhaglen.