Ie, Ac… /ˈɪmpɹɒv/

olddodiad

Cyfansoddwyd ym mis Ionawr 2020
Oddeutu 15 munud
© 2020 | Ethan James Davies | Cedwir pob hawl

Gydag ychydig o gymorth gan:

  • Shannon Greaves: Comedïwraig Byrfyfyr a Cydweithiwraig

Perfformwyr:

  • Licris Pob Math : Chwe pherfformiwr amhenodol

Nodyn y Rhaglen:

Nodau’r darn hwn yw ymgorffori celfyddyd comedi byrfyfyrio yn y broses o berfformio darn cerddorol sydd wedi’i ysgrifennu a’i gyfansoddi’n llawn, ac, yn anad dim, diddanu’r rheini sydd ar y llwyfan ac oddi arno. Yn lle nodyn rhaglen, mae angen esboniad o’r ffordd y mae’r perfformiad yn gweithio. Mae’r perfformiad hwn yn gofyn am rywfaint o baratoi a dealltwriaeth flaenorol o’i nodau er mwyn cyflawni ei botensial.

  1. Gan ddefnyddio cwmwl geiriau (Mentimeter), y bydd modd cael mynediad ato ar y sgrin, mae’r gynulleidfa yn cynnig ‘awgrymiadau’. Mae’r awgrymiadau hyn yn rheoli’r canlynol:
    • Y Tempo: gall y gynulleidfa ddweud Gyflymach, Arafach neu A Tempo i newid y tempo. Mae ‘A Tempo’ yn y cyd-destun hwn yn golygu dychwelyd i’r tempo gwreiddiol a ysgrifennwyd yn y sgôr.
    • Emosiwn/Naws: gall y gynulleidfa awgrymu unrhyw emosiynau yn rhydd, megis hapus, trist, neu syniadau mwy haniaethol fel dialgar, a ddylai wedyn ddylanwadu ar y ffordd y chwaraeir y darn.
    • Offeryniaeth: yr elfen anhrefn. Gall y gynulleidfa awgrymu Glocwedd/Gwrthglocwedd. Yna, mae pob perfformiwr yn trosglwyddo ei offeryn i’r perfformiwr cyfagos clocwedd neu wrthglocwedd, yn ôl eu trefn, ac yn parhau i chwarae’r darn – ond nawr ar offeryn y gallai fod yn gwybod sut i’w chwarae neu beidio! Gall hyn ddigwydd cymaint o weithiau ag y mae’r gynulleidfa yn ei awgrymu.
  2. Bydd yr awgrymiadau hyn wedyn yn cael eu taflunio y tu ôl i’r perfformwyr, er mwyn i’r gynulleidfa a’r Arweinydd eu gweld.

Geirfa Sylfaenol Comedi Byrfyfyrio:

  • Cynnig: Syniad rydych chi neu rywun arall yn ei roi/gyflwyno ar y llwyfan.
  • Gwrthod: Gwrthod cynnig a gyflwynwyd gan rywun arall.
  • Pimpio: Gorfodi cynnig ar rywun arall.
  • Bod yn Stêm-Roler: Arwain heb adael i neb arall gynnig unrhyw beth.
  • Awgrymiadau: Dyma’r newidiadau sy’n cael eu ‘hawgrymu’ gan y gynulleidfa.
  • Ie, Ac: Prif Reol bob golygfa fyrfyfyr yn ei holl ffurfiau: mae’n rhaid i berfformiwr dderbyn pob cynnig a byth gwrthod neu rwystro cynnig. Dylai pob derbyniad o gynnig wedyn adeiladu ar y cynnig hwnnw. Er enghraifft: “Dwi’n goch.” “Ie, ti’n goch, a ti’n fawr.” “Ie ydw, oherwydd fi yw injan dân.”

Gosodiad:

Nodyn i’r Arweinydd:

Nid rôl arweinydd traddodiadol yw eich rôl chi. Fodd bynnag, mae eich rôl yn dal i fod yn, os nad hyd yn oed yn fwy, bwysig: chi yw’r giât rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr. Byddwch yn:

  1. Cadw golwg ar y cymylau geiriau, gan ddewis y gair mwyaf mawr o bob un i’w weiddi ar y perfformwyr ar gyfnodau ar hap.
  2. Mae hyn yn dibynnu ar eich barn chi, fodd bynnag, awgrymir na ddylech dderbyn unrhyw awgrymiadau cyn i bob un o’r Chwe Offeryn wedi chwarae o leiaf unwaith.
  3. Mae hwn yn ganllaw byrfyfyrio: mae’n haws newid rhywbeth sydd eisoes wedi’i sefydlu na gorfod newid dim byd.
  4. Mae’r cymylau geiriau yn gweithredu fel y ffordd y mae’r gynulleidfa yn rhoi eu hawgrymiadau.
  5. Ar y diwedd, gweiddwch “Golygfa” a rhoi araith fyrfyfyr yn esbonio’r darn: beth mae’n ei olygu, sut y cafodd ei lunio, y pethau arferol mewn nodyn rhaglen.
  6. Fel ‘ceidwad y giât’, byddwch yn gyfrifol am sensro awgrymiadau’r gynulleidfa. Awgrymwn, yn gryf, bod ‘awgrymiadau’ megis y rheini sy’n cynnwys unrhyw fath o hiliaeth, rhywiaeth neu syniadau anweddus eraill yn cael eu hanwybyddu.

Sut i ddefnyddio: Cymylau Geiriau

  • Agorwch y Cwmwl Geiriau a dewiswch yr opsiwn i ganiatáu i’r gynulleidfa newid rhwng cwestiynau ar eu cyflymder eu hunain.
  • Dylid rhoi’r cod cofrestru iddynt er mwyn iddynt ddefnyddio eu ffonau symudol neu ddyfeisiau Rhyngrwyd eraill i ateb a defnyddio’r cwestiynau yn y cwmwl geiriau.
  • Opsiynol, ychwanegwch sleid Adborth a Holi ac Ateb ar y diwedd.

Yn ogystal, awgrymir, er mwyn cynhesu’r gynulleidfa a’u paratoi i deipio a meddwl, eich bod hefyd yn defnyddio’r cwis ar wahân.

  • Yn ystod y perfformiad, bydd y gynulleidfa yn gallu mewnosod awgrymiadau yn rhydd, a fydd yn cael eu gwneud yn weladwy yn y cwmwl geiriau.
  • Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn ymddangos yn fwy yn y cwmwl geiriau.
  • Cymerwch y gair mwyaf o bob adran (Tempo, Emosiwn/Naws, Offeryniaeth) a gweiddwch hwn ar y perfformwyr.
  • Ar gyfer y gynulleidfa, argymhellir bod y Cwmwl Geiriau yn cael ei daflunio ar wal neu sgrin y tu ôl i’r perfformwyr.
  • Nid oes angen i’r perfformwyr weld y Cwmwl Geiriau.

Mae’r holl adnoddau hyn yn barod a dylent fod ar gael i chi. Os nad oes gennych fynediad, anfonwch e-bost at y cyfansoddwr. Ac yn anad dim, mwynhewch!

Nodiadau'r Perfformiwr:

Gall y darn hwn ymddangos yn eithaf cymhleth, ond gallwch ei ddysgu yn union fel unrhyw ddarn arall o gerddoriaeth! Fodd bynnag, caiff ei berfformio/chwarae gydag amrywiaeth o fecanweithiau byrfyfyr.

Trwy ddefnyddio cymylau geiriau, byddwch chi, y perfformiwr, yn cael awgrymiadau o’r gynulleidfa gan yr arweinydd a fydd yn newid:

  1. Tempo’r darn (defnyddir y geiriau Cyflymach, Arafach ac A Tempo – mae A Tempo yn golygu dychwelyd i’r tempo a ysgrifennwyd yn y sgôr).
  2. Emosiwn neu naws y darn (geiriau fel hapus, trist, ofnus, ond disgwyl efallai rhai mwy haniaethol fel anobeithiol neu ddialgar).
  3. Yr offeryniaeth (gyda’r geiriau Clocwedd neu Wrthglocwedd, mae pob perfformiwr i oedi ar foment briodol a chymryd offeryn y perfformiwr cyfagos iddynt i’r cyfeiriad clocwedd neu wrthglocwedd, yn ôl eu trefn.
  4. Gall cerdyn gwyllt ymddangos oherwydd gall y gynulleidfa deipio unrhyw beth i’r cwmwl geiriau, yn ddamcaniaethol (mae a cappella, mynd yn ôl, ‘gwnewch yn Gymraeg’ i gyd wedi ymddangos o’r blaen).

Felly, ymarferwch gyda’ch gilydd, dewch i adnabod eich gilydd, ymarferwch gyflymu ac arafu’r darn, dysgwch sut i’w haniaethu gweithredoedd chwarae corfforol ar gyfer llawer o emosiynau/nawsau, a dilynwch y canllawiau o gomedi byrfyfyr:

  • “ie, ac”, lle rydych bob dro yn derbyn yr hyn y mae perfformiwr arall yn ei gynnig, neu’n ei wneud, wrth ychwanegu eich cynnig eich hun ato;
  • “paid bod yn stêm-roler”, fel eich bod yn caniatáu i bob perfformiwr yn ei dro newid eu chwarae i weddu i ‘awgrym’ y gynulleidfa, fel eich bod i gyd yn cydweithio;
  • “dim pimpio”, lle nad ydych byth yn ceisio gorfodi newid ar berfformiwr nad ydynt ei eisiau;
  • “”dim gwrthodiadau”, lle nad ydych yn gwrthod unrhyw gynnig gan unrhyw berfformiwr arall. Gweler: “ie, ac”

SYLW:

  • Mae’r mecaneg Clocwedd/Gwrthglocwedd yn bodoli i achosi anhrefn. Felly, peidiwch â cheisio dysgu chwarae pob offeryn cyfrannog arall – disgwylir i chi fethu: methiant nobl.
  • Mae’r darn wedi’i ysgrifennu gydag erwyddi rhifiadol yn hytrach nag enwau offerynnau penodol. Mae hwn i ganiatáu i unrhyw ensemble hap berfformio’r darn.
  • Mae’r erwydd i gyd yn defnyddio cleffiau amrywiol. Fodd bynnag, mae croeso i chi drawsnodi’r darn i weddu i’ch offeryn.
  • Mae’r chweched offeryn yn offeryn taro heb eu tiwnio. Mae pob rhan arall wedi’i hysgrifennu gyda thraw mewn golwg. Ond chi sydd i benderfynu.
  • Caniatewch i chi eich hun defnyddio technegau estynedig a chynanu ar gyfer eich offeryn; er mwyn cyffredinolrwydd, ni ellid eu hysgrifennu i’r sgôr.
  • Awgrymir hefyd, er hwylustod, fod perfformiwr 1 yn newid i gyd-fynd â’r awgrym yn gyntaf, ac yna 2, yna 3, yna 4 ac ati. Dylai pob perfformiwr wneud newid bob yn un.
  • Os hoffech chi fyrfyfyrio, mae croeso i chi. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol o’r effaith terfynol. Bydd chwarae fel tîm yn gwneud iddo swnio’n braf, ond efallai bydd bod yn greulon tuag at un perfformiwr ei wneud yn fwy doniol. Chi sydd i benderfynu beth rydych chi’n anelu ato.

Byddwch yn gweld rhai cyfarwyddiadau yn y sgôr sy’n ymddangos yn wirion, fel perfformio dawns ddeongliadol i’r gerddoriaeth. Dilynwch bob cyfarwyddyd.

Fodd bynnag, mae croeso i chi eu newid o gwmpas. Er enghraifft, os yw’n well gennych ddawnsio na smalio chwarae, mae croeso i chi wneud y naill neu’r llall. Hefyd mae croeso i chi ddawnsio, smalio chwarae neu fel arall pryd bynnag y teimlwch y dylai ddigwydd. Mae croeso i chi fynd â’r cyfarwyddiadau hyn, sy’n amwys yn fwriadol, i unrhyw gyfeiriad a ddymunwch. Mae’r holl gyfarwyddiadau hyn yn cael eu negyddu gan y symbol canlynol: Symbol cerddorol.

Gall lleiswyr berfformio rhannau a ysgrifennwyd ar gyfer offerynnau. Mae dau awgrym/canllaw sylfaenol i leiswyr:

  1. Canu heb eiriau: defnyddiwch “aahs” ac “oohs” ac ati i berfformio’r agweddau nodiant y darn hwn, neu hyd yn oed canu sgat.
  2. Canu gyda geiriau: nid oes telyneg wedi’u hysgrifennu, sy’n golygu bod ysgrifennu/canu awtomatig yn cael ei awgrymu. Creu’n fyrfyfyr eiriau wrth iddynt ddod atoch.

Cofiwch y byddwch yn cael eich dal yn y traws danio o Glocwedd/Gwrthglocwedd. Nodwch y gallwch ddewis cymryd y cyfarwyddiadau “esgus chwarae” i unrhyw gyfeiriad. Efallai mai canu ar y cyd neu feimio yw’r lle yr hoffech fynd â’r cyfarwyddiadau hynny. Neu beidio!